#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-824

Teitl y ddeiseb: Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd

Testun y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried ein cynnig i roi ‘Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd’ yn enw swyddogol ar adran newydd o ffordd yr A483—adran hanesyddol yr oedd mawr ei hangen.

Dylid gwneud hyn i gydnabod y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn y mae un o ‘Henebion Naturiol’ mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, sef Derwen Brimmon, wedi’i greu i’r Drenewydd, i’r rhanbarth ac i Gymru.

Yn gyntaf, enillodd wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn cyn ennill gwobr ‘UK Tree of the Year’—cystadleuaeth a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol. Yna, cafodd ail yng nghystadleuaeth fawreddog ‘European Tree of the Year’ (2017), mewn seremoni yn Senedd yr UE ym Mrwsel a gafodd lawer o sylw. Teimlwn y dylai’r dderwen hynafol hon, sydd o bwysigrwydd diwylliannol mawr, ac sydd bellach yn adnabyddus ledled Cymru, y DU ac yn wir y byd, gael ei hanrhydeddu yn y modd hwn.     

 

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ffordd osgoi newydd 6.53km o hyd i’r de o’r Drenewydd ar hyn o bryd.  Bydd y ffordd osgoi yn cysylltu’r A489 â’r A483 tra’n osgoi’r Drenewydd ac mae’n rhan o rwydwaith cefnffyrdd Cymru.

Ffordd osgoi y Drenewydd

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r ffordd osgoi newydd yn 2016, a disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau ddechrau 2019. Cafodd nifer o opsiynau posibl ar gyfer llwybr y ffordd osgoi eu trafod, gydag arddangosfa yn cael ei chynnal yn y Drenewydd ym mis Medi 2009 i ymgynghori â’r cyhoedd.

Yn dilyn hyn, cafodd cynigion a oedd yn cynnwys y llwybr a ffafriwyd yn 2010 ynghyd â dewisiadau amgen eu harddangos mewn arddangosfa gyhoeddus ym mis Gorffennaf 2013, a arweiniodd at gyhoeddi llwybr a ffefrir diwygiedig ym mis Mawrth 2014. Hefyd, cafodd y llwybr hwn ei ddangos mewn arddangosfa gyhoeddus arall ar 8 Ebrill 2014.

Ym mis Mehefin/Gorffennaf 2015, cynhaliwyd ymchwiliad lleol cyhoeddus cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai’n dechrau adeiladu’r ffordd osgoi ym mis Chwefror 2016.

Rhif a dosbarthiad y llwybr

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi llunio canllawiau i Ddosbarthiad Ffyrdd a’r Rhwydwaith o Brif Ffyrdd (PRN)(PDF, 268KB).

Mae dosbarthiad ffyrdd yn defnyddio system gyffredinol o rifo llwybrau a gaiff ei gweinyddu’n ganolog ar gyfer Cymru a Lloegr gan yr Adran Drafnidiaeth (er enghraifft, traffyrdd, ffyrdd A, ffyrdd B ac ati). Defnyddir canllawiau dylunio cyffredinol ar yr arwyddion ar gyfer pob dosbarthiad ffordd i roi eglurder i ddefnyddwyr ffyrdd. Ym mhob cyd-destun arall, mae dosbarthiad ffyrdd yn fater sydd wedi’i ddatganoli y tu allan i Loegr.

Mae’r rhwydwaith o brif ffyrdd yn dynodi ffyrdd rhwng mannau pwysig o ran traffig ledled y DU, gyda’r nod o ddarparu llwybrau rhwydd eu hadnabod sy’n cynnig mynediad i’r wlad gyfan. Mae’r Drenewydd wedi’i chynnwys fel cyrchfan ar y rhwydwaith o brif ffyrdd.

Mae’r canllawiau’n nodi:

The PRN is a devolved matter. Several primary routes run between England and Scotland or England and Wales, meaning cooperation between highways bodies across borders is required.

Er bod ffyrdd wedi’u rhifo yn unol â’r system, mae rhannau o gefnffyrdd yng Nghymru hefyd wedi’u henwi ar ôl materion sy’n arwyddocaol yn lleol. Er enghraifft, yn 2012 cafodd rhan o’r A470 rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno ei henwi yn ‘Ffordd y Cymry Brenhinol’.

Derwen Brimmon

Mae Derwen Brimmon yn goeden dderw sydd wedi’i lleoli i’r dwyrain o’r Drenewydd ac sydd dros 500 oed.

Yn 2016, enillodd y goeden wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn, ac ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno fe’i dewiswyd gan feirniaid fel coeden y flwyddyn yn y DU gan guro enillwyr y gwobrau cenedlaethol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Y wobr oedd grant gofal gwerth £1,000 a chyfle i ennill gwobr Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.

Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddwyd bod y goeden wedi dod yn ail yn y gwobrau Ewropeaidd, a benderfynwyd drwy bleidlais gyhoeddus. Roedd y goeden yn ail i Dderwen Józef yng Ngwlad Pwyl, a dyma oedd y canlyniad gorau ar gyfer coeden Brydeinig yn hanes y wobr.

 

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd y goeden yn destun deiseb flaenorol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru pan roedd bwriad i adeiladu’r llwybr a ffafriwyd yn flaenorol ar gyfer y ffordd osgoi o fewn 3.5 medr i foncyff y goeden. Mynegodd y deisebwyr bryderon ynghylch yr effaith y byddai hyn yn ei chael ar wreiddiau’r goeden.

Trafodwyd y mater hefyd yn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus a gynhaliwyd, a chafodd y llwybr ei newid yn sgil hyn i warchod y goeden. Yn ei hymateb i Bwyllgor Deisebau’r pedwerydd Cynulliad (PDF, 158KB), ysgrifennodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd:

Roedd yr Arolygwr o’r farn na fyddai’r hen goeden o dan fygythiad wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen ar gyfer y cynllun. Er hynny, dywedodd bod angen gofal wrth lunio manylion y cynllun a’i bod yn hanfodol goruchwylio’r gwaith yn ofalus ger y dderwen.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru gynigion gerbron i newid lleoliad y briffordd fel ei bod yn cadw draw o’r goeden a sicrhau bod cyn lleied o waith ag sy’n bosibl yn cael ei wneud o fewn y 15 metr lle ceir parth gwarchod gwreiddiau’r goeden, fel yr argymhellwyd gan arbenigwyr coedyddiaeth ac yn unol â’r Safonau Prydeinig. Gwnaeth yr Arolygwr dderbyn y cynigion hynny.

O ran enwi cefnffyrdd yng Nghymru, mae deisebau blaenorol wedi dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Yn 2012 cafodd deiseb i enwi’r A470 yn Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndwr ei thrafod gan Bwyllgor Deisebau’r pedwerydd Cynulliad. Ymatebodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd, (PDF, 171KB) fel a ganlyn:

trunk roads in Wales are numbered rather than named in accordance with a strict convention in order to ensure the continuity of routes across the UK.

Cafwyd ymateb tebyg i ddeiseb arall yn 2012 yn galw am enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru. Tynnodd y deisebydd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r enw ‘Ffordd y Cymry Brenhinol’ ar gyfer rhan o’r A470.

O ran enwi ffordd osgoi newydd y Drenewydd, yn ei lythyr at y Pwyllgor Deisebau, mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn awgrymu nad enwi’r ffordd fyddai’r dull mwyaf priodol o gydnabod y goeden.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi y bydd yn gofyn i Gyngor Tref y Drenewydd ymgynghori â phobl leol ynghylch sut y gellir dathlu’r ardal, gan awgrymu opsiynau fel enwi cyffyrdd ar y ffordd osgoi a chynnwys byrddau gwybodaeth mewn cilfannau ar hyd y ffordd newydd.